Rhif y ddeiseb: P-06-1386

Teitl y ddeiseb: Dylid cyflwyno ffordd i etholwyr bleidleisio i gael gwared ar eu AS cyn diwedd eu tymor

Geiriad y ddeiseb: Ar hyn o bryd, nid oes ffordd o gael gwared ar yr Aelodau o’r Senedd ar gyfer eich ardal os nad yw eu hetholwyr yn hapus gyda nhw – ar ôl cael eu hethol, maent yn aros yno am 5 mlynedd oni bai eu bod yn ymddiswyddo’n wirfoddol.

 

Mae’r ddeiseb hon yn galw ar y Senedd i fabwysiadu trefn adalw (fel y nodir isod), neu rywbeth tebyg, fel y gall etholwyr alw ar AS i adael ei sedd. Yr amodau i sbarduno adalw byddai deiseb ar-lein sydd ag o leiaf 100 o lofnodion gan bleidleiswyr cofrestredig cymwys.

 

Enghraifft o drefn adalw

Dylai’r broses fod yn debyg i Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015. Er mwyn i ddeiseb adalw fod yn llwyddiannus, byddai angen i 10 y cant o’r pleidleiswyr cofrestredig cymwys lofnodi’r ddeiseb, a fydd yn arwain yn y pen draw at is-etholiad.

 


1.        Cefndir

Mae prosesau adalw – y modd y gall gwleidydd etholedig gael ei ddiswyddo gan ei etholwyr rhwng etholiadau – yn arfer cymharol brin mewn deddfwrfeydd democrataidd. Senedd y DU oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gyflwyno system adalw drwy Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 ar gyfer Aelodau Tŷ’r Cyffredin.

Mae Bil Aelod drafft wedi cael ei gynnig i Senedd yr Alban gan Graham Simpson MSP a fyddai’n efelychu rhai o elfennau’r system a ddefnyddir ar gyfer Tŷ’r Cyffredin. Fodd bynnag, mae’r system hon yn cael ei chymhlethu pan gaiff ei chymhwyso i Aelodau o Senedd yr Alban a etholir drwy’r rhestr ranbarthol. Byddai'r un heriau'n berthnasol i Aelodau rhanbarthol o’r Senedd ac mewn system cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig fel y cynigiwyd gan Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar gyfer etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.

1.1.            Adalw yn Senedd y DU

Gwnaeth Deddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 ddarparu system adalw ar gyfer Aelodau Tŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf.

Dim ond os bodlonir un o’r tri amod a ganlyn y gellir agor deiseb adalw mewn etholaeth yn erbyn AS:

§    Mae'r Aelod Seneddol, ar ôl dod yn Aelod, wedi cael euogfarn o drosedd ac wedi cael ei ddedfrydu i gael ei garcharu neu ei gadw am gyfnod o lai na 12 mis (gan gynnwys dedfrydau gohiriedig).[1]

§    Yn dilyn adroddiad gan y Pwyllgor Safonau, mae Tŷ'r Cyffredin yn gorchymyn bod yr AS yn cael ei wahardd o'r tŷ am o leiaf 10 diwrnod eistedd (neu 14 diwrnod calendr).

§    Mae'r Aelod Seneddol, ar ôl dod yn Aelod, wedi'i gael yn euog o drosedd o ddarparu gwybodaeth y mae’n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn perthynas â chefnogi hawliad am lwfansau o dan adran 10 o Ddeddf Safonau Seneddol 2009.

Os caiff un o’r amodau ei fodloni, rhaid i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin hysbysu’r swyddog canlyniadau (a elwir yn swyddog deisebau) yn etholaeth yr Aelod Seneddol cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol fel y gall y swyddog deisebau agor deiseb adalw.

Gellir llofnodi deiseb adalw mewn hyd at 10 lle dynodedig yn yr etholaeth berthnasol ac mae'n parhau i fod ar agor i'w llofnodi am chwe wythnos. Rhaid i’r ddeiseb fod ar gael i’w llofnodi o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm, ac eithrio gwyliau banc. Rhaid i’r swyddog deisebau hefyd wneud darpariaeth resymol fod y ddeiseb ar gael i’w llofnodi ar adegau eraill.

Mae person yn gymwys i lofnodi’r ddeiseb os ydynt wedi’u cofrestru ac yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad seneddol yn yr etholaeth ar y diwrnod ar ôl i hysbysiad y Llefarydd gael ei roi. Ni fydd pobl sy’n cofrestru i bleidleisio tra bod y ddeiseb ar agor yn gallu llofnodi’r ddeiseb.

Er mwyn i ddeiseb lwyddo, rhaid iddi gael ei llofnodi gan 10 y cant o bleidleiswyr cofrestredig ar y gofrestr seneddol ar y diwrnod y mae’r swyddog deisebau’n cael yr hysbysiad am ddeiseb.

Os bydd y ddeiseb yn llwyddiannus, bydd y swyddog deisebau yn hysbysu Llefarydd Tŷ’r Cyffredin. Bydd sedd yr Aelod Seneddol yn dod yn wag wrth roi’r hysbysiad hwnnw.

Ar ôl i’r aelod adael ei sedd, mae’r confensiynau arferol ar gyfer galw isetholiad yn berthnasol.

Nid yw cael ei ddiswyddo gan ddeiseb adalw yn anghymhwyso’r AS sy’n gadael rhag ceisio sefyll yn yr isetholiad dilynol.

Hyd yn hyn, cynhaliwyd pedair deiseb adalw, gyda thri o’r rhain yn cyrraedd y trothwy llofnodion gofynnol. Cynhaliwyd y deisebau a oedd yn bodloni’r trothwy o 10 y cant yn Peterborough, Brycheiniog a Maesyfed, Rutherglen a Gorllewin Hamilton a Wellingborough Syrthiodd y ddeiseb aflwyddiannus ychydig yn fyr o’r nifer gofynnol o lofnodion yng Ngogledd Antrim.

Ceir rhagor o wybodaeth am alw ASau yn y papur briffio hwn gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin.

1.2.          Bil arfaethedig Diswyddo ac Adalw (Aelodau Senedd yr Alban)

Ym mis Ionawr 2022, cyflwynodd Graham Simpson MSP gynnig drafft i gyflwyno Bil Aelod i Senedd yr Alban i wneud yr hyn a ganlyn:

introduce new measures on removing an MSP from office, including additional grounds for removal and new processes for removal, such as recall.

Byddai ei system adalw arfaethedig yn cael ei sbarduno pe bai Aelod o Senedd yr Alban yn cael ei wahardd o drafodion am 10 diwrnod eistedd neu fwy o ganlyniad i dorri’r cod ymddygiad, neu os caiff yr Aelod ddirwy, o ganlyniad i achos llys, o unrhyw swm hyd at uchafswm y ddirwy ar lefel 5 o’r raddfa safonol (£10,000).

Roedd cynigion Mr Simpson yn adlewyrchu llawer o elfennau cynllun adalw Senedd y DU ar gyfer Aelodau Tŷ’r Cyffredin. Fodd bynnag, mae’r system hon yn cael ei chymhlethu pan gaiff ei chymhwyso i Aelodau o Senedd yr Alban a etholir drwy’r rhestr ranbarthol. Mae hyn yr un fath â’r system a ddefnyddir i ethol Aelodau o’r Senedd, a byddai’r un heriau yn berthnasol i’r system sy’n cael ei chynnig ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).

Ei gynnig am system i adalw Aelod rhanbarthol fyddai cynnwys dau gwestiwn ar yr un papur pleidleisio: byddai’r cyntaf yn gofyn a ddylid adalw’r Aelod dan sylw gyda throthwy wedi’i osod ar gyfer y gefnogaeth ofynnol; byddai’r ail gwestiwn wedyn yn cynnig dewis rhwng yr Aelod presennol o’r Senedd sy’n cael ei adalw ac enw’r ymgeisydd nesaf ar restr ranbarthol y blaid honno a gyflwynwyd yn yr etholiad diwethaf. Mae’n cydnabod yn ei gynigion y byddai hyn ond yn cynnig y dewis rhwng ymgeiswyr o’r un blaid wleidyddol â’r etholwyr.

1.3.          Enghreifftiau rhyngwladol

Mae nifer cyfyngedig o leoedd eraill yn y byd lle mae mecanweithiau adalw yn bodoli i gael gwared ar wleidyddion unigol neu grwpiau o wleidyddion. Mae’r papur ymchwil hwn gan Ganolfan Wybodaeth Senedd yr Alban (SPICe) yn nodi enghreifftiau o fecanweithiau adalw yn:

§    Columbia Brydeinig, Canada

§    Y Swistir

§    Alaska, UDA

§    Venezuela

2.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Er nad oedd mecanwaith adalw yn rhan o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), fel y nodwyd yn adran 2, mae hwn wedi bod yn fater a ystyriwyd gan y Pwyllgor Biliau Diwygio fel rhan o'i waith craffu ar y Bil yng nghyfnod 1.

Dywedodd y Sefydliad Materion Cymreig wrth y Pwyllgor ei fod yn bryderus nad oedd y Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer adalw, ac ychwanegodd fod diffyg gwybodaeth ynghylch sut y bydd safonau’n cael eu cynnal yn fwlch sylweddol. Nododd yn ei gyflwyniad:

“A modern democracy requires a clear recall mechanism to improve scrutiny, transparency and accountability on behalf of the electorate. Without this, the Senedd will fall further behind its Westminster equivalent in this area which, however flawed, has clear processes around recall mechanisms for parliamentarians”.

Mae'r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth lafar gan y Llywydd y Comisiwn Etholiadol Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru,  Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a’r Athro Alistair Clark ar fecanwaith adalw posibl ar gyfer Aelodau o'r Senedd.

Un o'r materion a godwyd gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a'r Comisiwn Etholiadol oedd pwysigrwydd dysgu o'r broses sydd ar waith ar gyfer Aelodau Seneddol. Tynnodd y ddau sefydliad sylw at y ffaith, pe bai’r Senedd am fwrw ymlaen â math o fecanwaith adalw, yna dylid rhoi sylw i’r adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol ar bob deiseb adalw. Darparodd y Comisiwn Etholiadol grynodeb o'r adroddiadau hyn i’r Pwyllgor.

Er ei bod yn cytuno â’r egwyddor ei bod yn briodol ystyried beth y gellid ei wneud i gynyddu atebolrwydd Aelodau drwy broses adalw, awgrymodd y Llywydd y gallai lleihau hyd tymhorau’r Senedd, o bum mlynedd i bedair blynedd, leihau (ond nid dileu) yr awydd posibl i adalw Aelodau unigol.

Dywedodd yr Athro Alistair Clark wrth y Pwyllgor bod yn rhaid ystyried nid yn unig sut y byddai unrhyw seddi gwag o ganlyniad i adalw yn cael eu llenwi, ond hefyd beth fyddai’n sbarduno unrhyw broses adalw.

Bu'r Pwyllgor hefyd yn ymgynghori â Chomisiynydd Safonau'r Senedd i ofyn am ei farn ar atebolrwydd yr Aelodau, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno mecanwaith adalw.

Dywedodd y Comisiynydd Safonau er ei fod yn croesawu unrhyw fesur a fyddai’n cynyddu atebolrwydd Aelodau, fod ganddo bryderon difrifol ynghylch cynnwys mecanwaith adalw yn y Bil sy’n debyg i’r un yn Neddf Adalw Aelodau Seneddol 2015. Roedd ei brif bryder yn canolbwyntio ar ddiffyg darpariaeth ar gyfer is-etholiadau yn y system etholiadol arfaethedig, a fyddai’n golygu y gallai 10 y cant o'r etholwyr dynnu Aelod o’i swydd os dilynir model tebyg i'r un yn Nhŷ'r Cyffredin.

Cynigiodd y Comisiynydd ffyrdd amgen o gryfhau atebolrwydd Aelodau, gan gynnwys trwy wneud dedfryd lai o garchar, neu unrhyw ddedfryd o garchar, arwain at anghymhwyso yn awtomatig[2] a chynyddu'r sancsiynau sydd ar gael i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, er mwyn caniatáu, o bosibl, i Aelod gael ei dynnu o’i swydd, yn amodol ar rai mesurau diogelu.

Argymhellodd y Pwyllgor Biliau Diwygio yn ei adroddiad cyfnod 1 ar y Bil y dylai Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ddatblygu opsiynau ar gyfer cryfhau atebolrwydd Aelodau unigol, gan gynnwys ystyried mecanwaith adalw, trefniadau anghymwyso a'r sancsiynau sydd ar gael i'r Pwyllgor pan gaiff cwyn yn erbyn Aelod ei chadarnhau. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cwblhau ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau posibl, a hynny cyn diwedd y Chweched Senedd yn 2026.


 

3.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a Phrif Weinidog Cymru wedi cyfeirio at fecanwaith adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd yng nghyd-destun y rhaglen ehangach o ddiwygio etholiadol sy’n digwydd drwy Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).

Pan gyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar 18 Medi, dywedodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol, y canlynol wrth BBC Radio Wales :

"I am sure that [a Senedd recall system] will be raised during the scrutiny process and then we will have to address that, so I think it is something that will take place. It will be discussed, and we will have to consider whether it is through this legislation or through one of the other pieces of legislation that we are bringing that forward."

Codwyd y mater hefyd gan Adam Price AS ac Alun Davies AS yn y Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 26 Medi 2023.

Mewn ymateb i Alun Davies AS, dywedodd y Prif Weinidog:

Os yw'r Senedd, yn y broses o graffu ar y Bil, yn dod i gonsensws ar y mater hwnnw neu, yn wir, efallai materion eraill a fydd yn dod yn rhan o'r ddadl, yna, mewn ffordd, nid wyf i'n siŵr mai mater i'r Llywodraeth yw bod â safbwynt arno. Oherwydd Bil am y Senedd yw hwn, a'r Llywodraeth yw'r cyfrwng i'w gyflwyno yn hytrach na'i fod yn Fil Llywodraeth o'i darddiad.

Codwyd y mater gyda'r Cwnsler Cyffredinol gan Darren Millar AS yng nghyfarfod y Pwyllgor Biliau Diwygio ar 5 Hydref 2023. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried model adalw, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:

It is a perfectly valid issue, and I think it's a very topical one in terms of accountability of individual Members, and so on. It is not within this Bill, it was not one of the recommendations to be included within this Bill. It is quite complex—actually, it's more complex under the list system, because, obviously, there were no by-election systems, and how would it actually operate, how you would actually trigger it, and so on. But, look, it's a matter for the Senedd to consider. I don't think it can come into this legislation; I think it is, again, quite a complex area. It needs quite a bit of work done as to how something like that might operate. I'm pretty certain it will undoubtedly come up within the review system after 2026. But there is nothing that stops the Senedd from at least considering it in the interim as well.

Yn ail sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Biliau Diwygio gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar 13 Rhagfyr 2023, cadarnhaodd y byddai angen ymgymryd â gwaith pellach ar y mater cyn y gellid ei gyflwyno:

All I'd say is, in terms of legislating and change, there is no simple way of actually doing this. I think there's still quite a lot of thought. I'd be very interested in whatever recommendations the committee has as to what might happen, how that might be achieved, and even if it's not feasible for this legislation, and I think that's not a valuable contribution in any event to, I think, something where there is a will, but it is an area that needs to be addressed. The question is how quickly can it be addressed, and in what manner it should be addressed, whilst preserving the, I suppose, integrity of the electoral system as well.

3.1.          Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb yn nodi rhai o’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â mecanwaith adalw mewn system rhestr gyfrannol. Mae’n nodi y byddai deiseb adalw lwyddiannus, fel y rhagwelwyd gan y deisebydd, yn golygu:

§    Byddai Aelod sy'n destun deiseb o'r fath yn colli ei sedd ar unwaith.

§    Ni fyddai cyfle i'r Aelod a alwyd yn ôl i "amddiffyn" ei adalwad mewn is-etholiad. Yn lle hynny, byddai'r sedd naill ai'n cael ei llenwi gan yr ymgeisydd nesaf ar restr plaid neu, byddai’r sedd yn parhau'n wag.

§    Gallai Aelod golli ei sedd yn ddi-alw’n-ôl ar sail yr ewyllys a fynegir gan ddim ond 10 y cant o bleidleiswyr cofrestredig o fewn etholaeth (pe bai’r trothwy ym mhroses Senedd y DU yn cael ei fabwysiadu).

Mae'r ymateb yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ac yn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Biliau Diwygio yn ei hadroddiad ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), gan gynnwys argymhelliad 50 mewn perthynas ag adalw.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Os yw AS presennol a gafwyd yn euog o drosedd yn cael dedfryd o garchar o fwy na blwyddyn ac yn cael ei gadw, byddai eisoes yn colli ei sedd yn awtomatig ac nid yw adalw yn berthnasol.

[2] Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd os yw wedi cael dedfryd o garchar o 12 mis neu fwy, gan gynnwys dedfryd ohiriedig.